Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

HSC(4)-03-12 papur 3

 

Camau dilynol i’w cymryd: Deddfwriaeth yr UE sy’n cael ei pharatoi ac sy’n berthnasol i anghydraddoldebau iechyd

Mewn cyfarfod o’r Pwyllgor ar 8 Rhagfyr gofynnodd Lindsay Whittle AC am wybodaeth am unrhyw ddeddfwriaeth yr UE sy’n cael ei pharatoi ac sy’n berthnasol i’r mater o anghydraddoldebau iechyd.

Polisi a chamau gweithredu yn ymwneud ag anghydraddoldebau Iechyd

Fel y nodwyd yn y cyfarfod roedd y wybodaeth gefndir yn darparu gwybodaeth am y camau gweithredu mwyaf diweddar o ran polisi a oedd yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd fel cyfanwaith, sef y Ddogfen Gyfathrebu ar Anghydraddoldebau Iechyd a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd yn 2009.

Yn ystod y cyfarfod cyfeiriais hefyd at Gynllun Gweithredu ar y Cyd: Equity Action, a lansiwyd yn 2010 fel un o’r camau gweithredu i ddod o gynllun gweithredu 2009.

Rwyf wedi cael rhagor o wybodaeth am hwn, sy’n dangos mai Llywodraeth Cymru yw un o bartneriaid craidd y fenter hon. Cymerwyd y wybodaeth a ddefnyddiais yn y cyfarfod o wefan EuroHealthNet. Nid oedd hon yn dangos Cymru fel un o’r partneriaid a restrwyd. Fodd bynnag, mewn gwaith ymchwil dilynol, rwyf wedi dod o hyd i dudalennau gwe Equity Action penodedig ar y wefan ganlynol http://www.health-inequalities.eu/, sy’n dangos bod Cymru wedi’i rhestru fel partner yn y prosiect. Mae hyn yn egluro’r pwynt a godwyd gan Elin Jones AC yn y cyfarfod.

Ardaloedd perthnasol eraill

Nodais hefyd yn y cyfarfod fod anghydraddoldebau iechyd yn fater eang sy’n torri ar draws nifer o ardaloedd gwaith polisi a gweithredu.

Mae gwefan DG Health and Consumers y Comisiwn Ewropeaidd yn rhestru amrediad o wahanol ardaloedd sy’n effeithio ar anghydraddoldebau iechyd, fel y mae tudalennau gwe’r EU-Health portal.

Mae’r rhain yn eang o ran cwmpas ac maent yn canolbwyntio ar yr amgylchedd cymdeithasol y mae pobl yn byw ynddo. Roedd y wybodaeth ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor ar 8 Rhagfyr yn cynnwys nifer o faterion sy’n berthnasol i hyn, fel Strategaeth Ewrop 2020 (a nifer o’r mentrau arloesol sy’n berthnasol i faterion iechyd), a chynigion rhaglen Health for Growth yr UE.

Un datblygiad ychwanegol sy’n haeddu cael ei grybwyll yw rhaglenni Cronfeydd Strwythurol yr UE, ac yn arbennig y cynigion deddfwriaethol drafft ar gyfer y cyfnod 2014-2020 a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2011. Mae’r cynigion hyn yn destun ymchwiliad gan y Pwyllgor Menter a Busnes. Mae cwmpas o fewn y rheoliadau drafft i gefnogi camau gweithredu o fewn y maes iechyd, tra bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi cynnig y dylid neilltuo lleiafswm o 20 y cant o Gronfa Gymdeithasol Ewrop i frwydro yn erbyn tlodi ac allgáu cymdeithasol.